Oes gennych chi rywbeth rydych chi wir yn ei garu? Yn y gweithdy Cyfeillion Bathodyn, gallwch ddylunio eich bathodyn digidol eich hun i ddangos i’r byd beth sy’n eich gwneud CHI’n arbennig! Byddwn yn defnyddio gwefan (neu ap) Canva ar gyfer y gweithdy hwn, sydd ar gael ar unrhyw ddyfais. Ymunwch â’n gweithdy ddydd Mawrth 29 Hydref am 10.30am. Rydym yn cynnal y gweithdy hwn ar-lein trwy Zoom. Bydd hyfforddwr achrededig ac aelod o staff o dîm Cronfa’r Teulu yma i’ch cefnogi.
•Mae hwn yn weithdy cyfeillgar ac anffurfiol ar gyfer teuluoedd gyda phlant a phobl ifanc anabl neu ddifrifol wael – ac mae croeso i blant (gan gynnwys brodyr a chwiorydd) ymuno! • Bydd angen i chi gael iPad (neu iPhone) i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r gweithdy. • Er mwyn cadw’ch iPad yn rhydd i’w ddefnyddio yn ystod y gweithdy, bydd angen i chi ymuno â galwad Zoom ar ddyfais arall, fel ffôn clyfar neu liniadur.