Loading Digwyddiadau

« All Digwyddiadau

Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru

Medi 4 @ 8:00 yb - 5:00 yh

 

Cefnogi pobl ifanc i ddod yn unigolion llwyddiannus


Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru: Wedi Ymrwymo i Hygyrchedd a Chynhwysiant

Mae gennym ni nifer o ddigwyddiadau, yn cael eu cynnal ledled Cymru, ewch i’n tudalen digwyddiadau yma

Mae Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn fudiad ieuenctid gwirfoddol sy’n gweithredu’n ddwyieithog ar draws cefn gwlad Cymru. Gyda dros 5,000 o aelodau rhwng 10 a 28 oed, mae ein rhwydwaith yn cynnwys 138 o glybiau CFfI a deuddeg Ffederasiwn Sirol.

Fel rhan o’n hymrwymiad i wneud pob gweithgaredd yn hygyrch a chynhwysol i bawb, rydym wedi hyfforddi Carys Storer Jones yn ddiweddar fel ein Hyrwyddwr Hygyrchedd . Mae Carys bellach yn rhannu ei gwybodaeth gyda’i chyd-staff a gwirfoddolwyr, gan ein helpu i wreiddio hygyrchedd ym mhopeth a wnawn.

Mewn partneriaeth â Piws , rydym hefyd yn falch o gefnogi oedolion ifanc anabl i ddod yn Llysgenhadon Mynediad . Mae hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir—fel y gall pawb deimlo’n hyderus a bod croeso iddynt yn ein digwyddiadau a’n clybiau.

Os oes gennych chi anghenion hygyrchedd a hoffech chi gymryd rhan, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cysylltwch â Carys ar: Carys@yfc-wales.org.uk

Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Skip to content