Mae Pettigrew Tea Rooms yn ystafell de draddodiadol a gafodd ei hadnewyddu yn 2021.
Mwynhewch fwyd a diod blasus gyda staff cyfeillgar ac awyrgylch cyfforddus.
Mae gan ystafelloedd te Pettigrew fynediad gwastad o Stryd y Castell i’r siop anrhegion.
Yn ystod y tywydd braf mae’r teras eang ar gael i’w ddefnyddio.
Gellir cael mynediad i du mewn porthdy’r gorllewin trwy 3 gris neu ramp wrth ochr yr adeilad. Mae hyn hefyd yn arwain at y cwrt a thoiledau hygyrch.