Mae Gwesty’r Celtic Royal wedi’i leoli yn nhref hanesyddol Caernarfon. Mae’r gwesty yn daith gerdded fer i ffwrdd o’r atyniad poblogaidd i dwristiaid, castell Caernarfon.
Mae gwesty’r Celtic Royal yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn drwyddo draw. Byddant hefyd yn ceisio rhoi ystafell gydag ystafell wlyb i ymwelwyr (angen rhybudd ymlaen llaw) os oes angen.
Mae staff Gwesty’r Celtic Royal yn hapus i helpu gwesteion mewn unrhyw ffordd y gallant a byddant yn ceisio bodloni’r holl anghenion/gofynion.