Lawr lwytho pdf o’r astudiaeth achos hon

Sector Fusnes:                   Canolfan Ffitrwydd

Lleoliad:                              1 Ffordd Glanhwfa, Llangefni LL77 7QX

Gwefan:                              https://www.anglesey.gov.uk

Ynghylch Canolfan Hamdden Plas Arthur

Mae Plas Arthur yn un o ganolfannau chwaraeon mwyaf Môn sy’n cynnig amrywiaeth eang o adnoddau iechyd, ffitrwydd a chwaraeon, o bwll nofio mawr 25 metr, i bwll bychan i blant bach, i ystafell ffitrwydd gyda’r offer diweddaraf i neuadd chwaraeon fawr ar gyfer chwaraeon a dosbarthiadau ffitrwydd.  Mae gan y Ganolfan hefyd ddau gwrt sboncen a llain fawr gydag wyneb modern 3G, â llifoleuadau.

Mae Plas Arthur yn un o bedair canolfan sy‘n cael eu rhedeg gan Môn Actif ar draws yr ynys ac sy’n hyrwyddo’n frwd ei adnoddau hamdden i bobl o bob oedd a gallu

“Fel deiliaid Safon Arian insport, mae Canolfan Hamdden Plas Arthur wedi ymrwymo’n gadarn i genhadaeth Chwaraeon Anabledd Cymru o drawsnewid bywydau drwy rym chwaraeon.”

 Sasha Williams, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru Môn Actif

Yr Her

Mae’n ffaith nad yw pobl gyda salwch, anabledd neu gyflwr hir dymor yn llai tebyg o gymryd rhan mewn chwaraeon.  Mae gan Ganolfan Hamdden Plas Arthur amrywiaeth o wahanol sesiynau iechyd, ffitrwydd a chwaraeon cynhwysol i bobol sy’n cael trafferth i symud ac mae ei dîm o arbenigwyr ffitrwydd yn barod iawn i helpu a chynghori ymwelwyr sut i gael y budd gorau o’u hamser a’u profiad yn y ganolfan.

Cefnogi’r Cynnig

Yn ogystal â chynnig sesiynau hollol gynhwysol, mae gan Plas Arthur hefyd sesiynau ychwanegol yn ei amserlen arferol ar gyfer pobl sy’n cael trafferth i symud.  Mae hyn yn cynnwys sesiynau Nofio insport, sef sesiynau nofio cynhwysol, rhad ac am ddim bob prynhawn Sadwrn rhwng 3 a 4; Pêl-droed insport bob prynhawn Llun rhwng 5 a 6 gyda phwyslais ar gael hwyl a datblygu pob aelod, yn wryw a benyw o bob gallu; a chynhelir Aml-chwaraeon Annibynnol Môn bob nos Fercher rhwng 7 ac 8.  Mae’r buddsoddiad diweddaraf yn yr ystafell ffitrwydd erbyn hyn yn cynnig cefnogaeth i wella iechyd a llesiant pob cwsmer ac mae modd  addasu’r holl offer yn ôl anghenion a gallu.  Gyda’r amrywiaeth o sesiynau eraill, mae gan Plas Arthur ddigonedd i’w gynnig pan a pha bryd y bydd pobl eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon gyda’r nod o gael pobl yn fwy bywiog, yn amlach.

Y Buddion

Mae chwaraeon a gweithgaredd corfforol chwarae rhan hanfodol mewn iechyd a llesiant pawb, gyda’r manteision yn amrywio o adeiladu’r cyhyrau, gwella cydbwysedd a chydsymud yn ogystal â chael effaith enfawr a phositif ar lesiant meddyliol.  Mae Plas Arthur yn cynnig hyn i bobl sy’n cael trafferth symud tra’n eu hysbrydoli i ddod yn fwy ffit, yn iachach ac yn hapusach ac yn eu helpu i wireddu eu potensial yn y tymor hir.

Sut mae PIWS yn cefnogi Plas Arthur

Mae Plas Arthur yn gweithio gyda PIWS i roi gwybod i bobl sy’n cael trafferth i symud am holl adnoddau a sesiynau’r ganolfan hamdden a bydd yn gweithio gyda Môn Actif i roi hyfforddiant pellach, ychwanegol, i staff wrth iddyn nhw weithio i ennill Safon Aur insport.

Pa adnoddau oedd yn cael eu cyflwyno?

 Y Cynnig Piws

Mae gan Plas Arthur gerdyn Aelodaeth Anabledd am bris rhatach o £8 yn lle £21 sy’n caniatáu i un gofalwr gymryd rhan am ddim mewn unrhyw weithgaredd gyda pherson anabl.

Y Cynllun Blodyn Haul

Mae’r Blodyn Haul yn arwydd cydnabyddedig fod gan y sawl sy’n ei wisgo anabledd cudd.  Mae’n gynnil ond yn hawdd i bobl eraill ei adnabod a’i gydnabod a deall fod y sawl sy’n ei wisgo’n wynebu anawsterau cudd, ac, efallai, angen rhagor o gymorth, help neu ychydig yn fwy o amser.  Drwy PIWS, mae Canolfan Hamdden Plas Arthur wedi cofrestru i ymuno â Chynllun Anabledd Cudd y Blodyn Haul.  Oherwydd ei aelodaeth,  mae Plas Arthur wedi’i ychwanegu at fap lleoliad y cynllun ar ei wefan ac mae’r Ganolfan wedi ymrwymo i hyfforddi ei staff i adnabod y Blodyn Haul Anabledd Cudd sy’n sicrhau bod ganddyn nhw ddealltwriaeth ddyfnach o anableddau cudd a’u bod yn dysgu sut i gysylltu â, a chefnogi, cwsmeriaid sy’n gwisgo’r Blodyn Haul Cudd.

Ymwybyddiaeth Blodyn Haul

Ymwybyddiaeth Blodyn Haul

Datganiad Mynediad Presennol

GAPA
Author: GAPA

Skip to content