Mae Môn wedi’i dewis gan PIWS, menter gymunedol, ar gyfer cynllun peilot sy’n anelu at osod Mynediad i Bawb wrth galon sector twristiaeth a hamdden yr ynys.

Gyda 14.1 miliwn o bobl wedi’u cofrestru’n anabl yn y DU, amcangyfrifir bod  gan un o bob pedwar o deuluoedd sy’n ymweld â Chymru aelod anabl yn y teulu.  Dim ond 10% sy’n defnyddio cadair olwyn, felly dyw trafferthion mynediad ddim yn cael ei gyfyngu i’r rhai sydd â nam corfforol, mae gan 80% “gyflwr cudd”.

Meddai Davina Carey-Evans, sylfaenydd PIWS, “Mae grym gwario pobl anabl cofrestredig, sy’n cael ei galw y bunt biws, yn £249 biliwn y flwyddyn ac eto dim ond 10% o fusnesa’r DU sydd â strategaeth i dargedu’r farchnad enfawr hon.

Mae’r cynllun peilot yn gobeithio newid canfyddiadau ynghylch anabledd a bydd PIWS yn gweithio gyda busnesau, cymunedau lleol ac ymwelwyr i newid y diwydiant twristiaeth a hamdden ar yr ynys yn wirioneddol ac yn barhaol.

“Mae llawer o fusnesau’n meddwl bod hygyrchedd yn golygu newidiadau drud, ond gyda 75% o bobl ag anabledd yn cerdded i ffwrdd o fusnesau yn y DU oherwydd gwasanaeth gwael i’r cwsmer, mae pethau syml fel cynnig croeso cynnes a bo ag agwedd bositif yn mynd ymhell i wneud i ymwelwyr deimlo’n gyfforddus. Ac mae cael datganiad mynediad hollol glir ar eich gwefan yn gwneud y byd o wahaniaeth ac yn rhoi’r wybodaeth i gwsmeriaid y maen nhw ei angen i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch ble i aros neu i ymweld.

Gall busnesau twristiaeth a hamdden ymuno â’r cynllun peilot am ddim ar wefan PIWS www.piws.co.uk a manteisio ar y canllawiau, hyfforddiant a’r gefnogaeth y mae PIWS yn ei gynnig i’w gwneud yn fwy hygyrch.

Ar y wefan hefyd mae astudiaethau achos o Sŵ Môr Môn, y Bull ym Miwmares, RibRide, Canolfan Hamdden Plas Arthur a thref Amlwch i ddangos sut y maen nhw’n talu sylw i anghenion ymwelwyr gyda phroblemau mynediad, gan gynnwys hefyd “Hyrwyddiadau Piws” ar gyfer 2021.

Ac meddai Davina ymhellach “Pan fydd busnesau’n cofrestru ar y wefan, bydd ymwelwyr a’r cymunedau lleol yn gallu canfod lleoedd sydd â’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch hygyrchedd. Ond dim ond un elfen yw hon, mae’r safle hefyd yn annog ymwelwyr a’r gymuned leol i adael eu sylwadau ar eu hymweliad er mwyn i ni allu deall yn well y rhwystrau y mae pobl gyda phroblemau hygyrchedd yn eu wynebu a chydweithio i’w goresgyn.

“Mae’n rhaid i bob adnodd, cynnyrch a gwasanaeth i dwristiaid fod yn hygyrch, waeth beth yw cyfyngiadau person a, thrwy wella hygyrchedd, byddwn yn cadw Môn ar y blaen ymysg cyrchfannau gwyliau’r DU.

Mae’r cynllun peilot yn cael ei ariannu drwy grant gan Ymddiriedolaeth Elusennol Môn ac mae’n cynnwys ymgyrch farchnata ar draws y cyfryngau cymdeithasol, ymgyrch daflenni i bob cartref ym Môn a bod yn weladwy i bob busnes twristiaeth a hamdden.

Bydd y cynllun yn cael ei adolygu yn ddiweddarach yn y flwyddyn gyda golwg ar ei gynnig i bob rhan o Gymru.

GAPA
Author: GAPA

Skip to content