Dewch yn Llysgennad Mynediad Piws
A ydych yn angerddol am wella hygyrchedd ledled Cymru? Oes gennych chi brofiad byw o anabledd ac eisiau helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned?
Yn Piws, mae ein Llysgenhadon Mynediad yn ein helpu i amlygu profiadau go iawn, chwalu rhwystrau, a rhannu mewnwelediadau gwerthfawr i gefnogi teuluoedd, unigolion a busnesau i greu mannau mwy cynhwysol.
Beth Mae Llysgennad Mynediad yn ei Wneud?
Fel Llysgennad Mynediad, gallwch gymryd rhan drwy:
Lanlwytho Digwyddiadau Cynhwysol : Rhannwch ddigwyddiadau hygyrch a chynhwysol sy’n digwydd yn eich ardal leol i helpu eraill i ddarganfod beth sydd ar gael.
Adolygu Lleoliadau : Ymweld â lleoedd fel caffis, theatrau, atyniadau a mwy – a rhannu eich profiad o hygyrchedd, gan gynnwys unrhyw adborth neu luniau defnyddiol.
Codi Ymwybyddiaeth : Trwy adrodd eich stori, rydych chi’n helpu eraill i deimlo’n fwy hyderus am fynd allan a chefnogi busnesau i wneud gwelliannau ystyrlon.
Pam Cymryd Rhan?
Cwbl hyblyg – gallwch gymryd rhan mewn ffordd sy’n gweddu i’ch ffordd o fyw
Cyfle i fagu hyder, sgiliau cyfathrebu, a phrofiad digidol
Ymunwch â chymuned gefnogol o lysgenhadon ledled Cymru
Helpwch eraill trwy rannu eich profiad byw
Diddordeb?
Os hoffech wneud cais neu ddarganfod mwy, llenwch y ffurflen gyflym hon:
🔗 https://form.jotform.com/242033375918357
Am unrhyw gwestiynau neu sgwrs am sut i gymryd rhan, mae croeso i chi gysylltu â Gethin ar 📩 gethin.ad@piws.co.uk
Gyda’n gilydd, gallwn wneud Cymru’n lle mwy hygyrch i bawb.