Integreiddio Digidol Llawn
Ar gyfer sefydliadau sydd angen porthiant amser real byw, rydym wedi creu cod API a fydd yn caniatáu i’ch systemau siarad â’n system ni yn uniongyrchol. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol mewn amgylchiadau megis gwerthu tocynnau ond mae hefyd yn gymwys ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.
I gael rhagor o wybodaeth am yr API, y cod prawf a data diwedd ffug, cysylltwch yn uniongyrchol.
Nid oes tâl i gael mynediad at y gwasanaeth hwn.
Is-gontractio Eich Cynllun Mynediad Mewnol
Wrth i’r cynllun Cerdyn Mynediad dyfu, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y lleoliadau sydd eisiau cysondeb yn y ffordd y caiff ceisiadau eu prosesu a’u hintegreiddio i’w systemau, a hefyd yn gweld arbedion wrth weinyddu gofynion mynediad y rhai nad ydynt yn ddeiliaid Cerdyn Mynediad.
Mae hefyd yn hanfodol cofio bod yn rhaid i bob lleoliad gael dewis arall am ddim i brosesu gofynion cwsmer.
Gallwn weithredu fel 3ydd parti annibynnol sy’n rheoli’r cynllun cofrestru mynediad gyda’r un proffesiynoldeb wrth wneud penderfyniadau a defnyddio’r un seilwaith digidol â’r Cerdyn Mynediad ar gyfer cwsmeriaid nad ydynt yn dymuno talu cost cais Cerdyn Mynediad.
Mae’r taliadau’n amrywio yn ôl y raddfa weithredu ond rydym yn gweithredu ar CLG misol a dim ond ar y cwsmeriaid rydym yn eu hychwanegu’n llwyddiannus at y cynllun y byddwn yn codi tâl. Mae cwsmeriaid yn cael y cyfle i uwchraddio i Gerdyn Mynediad ar ddiwedd y cais am ddim ac, ar adeg ysgrifennu, rydym yn uwchraddio tua 25% o geisiadau am ddim, ac nid oes unrhyw dâl i’n cleientiaid busnes.