Mae cortyn blodyn yr haul yn ffordd i gwsmeriaid ddangos i staff ar draws y meysydd awyr y gallai fod angen gofal a chymorth ychwanegol arnynt. Mae’r gwasanaeth dewisol wedi’i fwriadu ar gyfer cwsmeriaid ag anableddau cudd megis colli clyw, awtistiaeth neu ddementia.
Lansiwyd The Hidden Disabilities Sunflower ym Maes Awyr Gatwick ym mis Mai 2016. Mae’n dechrau cael ei gydnabod yn fyd-eang ac wedi’i fabwysiadu yn y DU gan bob un o’r prif feysydd awyr, llawer o archfarchnadoedd, gorsafoedd rheilffordd, cyfleusterau hamdden, yn y GIG a nifer cynyddol o fusnesau a sefydliadau bach a mawr. Yn y bôn, fe’i defnyddir yn unrhyw le lle mae pobl yn cwrdd.
Dysgwch fwy ar eu gwefan: Anableddau Cudd