Bydd Bargod yn dod yn fyw ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr wrth iddi gynnal ei ffair Nadoligaidd flynyddol. Bydd stondinau Nadoligaidd, adloniant a reidiau ffair yn dod â’r Nadolig ychwanegol hwnnw i’r dref, gan gynnig danteithion go iawn i drigolion lleol. Bydd Cyngor Tref Bargod yn cefnogi’r digwyddiad gydag ymddangosiad gan Siôn Corn ac ychydig o adloniant Nadoligaidd hwyliog. Mae canol tref Bargod hefyd yn cynnig ystod wych o siopau annibynnol a brandiau stryd fawr sy’n rhoi cyfle i chi gychwyn eich siopa Nadolig. Profwch dref fach gyda llawer i’w gynnig! Mae Ffair Fwyd a Chrefft Gaeaf Bargod AM DDIM! Am ragor o wybodaeth e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffoniwch 01443 866390. Diddordeb mewn cael stondin yn y digwyddiad hwn? Cysylltwch â digwyddiadau@caerffili.gov.uk Trefnir y digwyddiad hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i gefnogi gan Gyngor Tref Bargod.