Loading Digwyddiadau

« All Digwyddiadau

  • This event has passed.

Gweithdy iPad: Creu stori gymdeithasol

Chwefror 13 @ 10:30 yb - 11:30 yb

Pic Family Fund Discover Digital

Mae straeon cymdeithasol yn helpu plant ag anghenion ychwanegol i ddatblygu gwell dealltwriaeth gymdeithasol o sut mae’r byd o’u cwmpas yn gweithio, a’u helpu i gadw’n ddiogel.

Ymunwch â’r gweithdy hwn a dysgwch sut i greu teclyn gweledol syml i helpu’ch teulu i ymdopi â sefyllfaoedd newydd a’u deall.

Byddwn yn defnyddio’r ap ‘Clips’ i wneud stori gymdeithasol. Mae ‘Clips’ yn ap rhad ac am ddim sydd ar gael o’r App Store.

Dewch draw ddydd Iau 13 Chwefror am 10.30am.

Cofrestrwch ar gyfer ein gweithdy straeon cymdeithasol

Rydym yn cynnal y gweithdy hwn ar-lein trwy Zoom. Bydd hyfforddwr profiadol ac aelod o staff o dîm Cronfa’r Teulu yno i gefnogi.

Nodwch os gwelwch yn dda

  • Mae hwn yn weithdy cyfeillgar, anffurfiol ar gyfer rhieni a gofalwyr plant a phobl ifanc anabl neu ddifrifol wael.
  • Bydd angen i chi gael iPad (neu iPhone) i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r gweithdy.
  • Er mwyn cadw’ch iPad yn rhydd i’w ddefnyddio yn ystod y gweithdy, bydd angen i chi ymuno â galwad Zoom ar ddyfais arall, fel ffôn clyfar neu liniadur.
Gwybodaeth:

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm drwy anfon e-bost at digitalskills@familyfund.org.uk neu ffoniwch ni ar 01904 550066 .

Lleoliad

Ar-lein

Trefnydd

Cronfa’r Teulu
Phone
01904 550055
Email
digitalskills@familyfund.org.uk
View Trefnydd Website
Skip to content