Wedi’i lleoli ar Draeth Newry hardd, mae’r amgueddfa’n brofiad hynod ddiddorol i’r teulu. Cymerwch gam yn ôl mewn amser yng Ngorsaf Bad Achub hynaf Cymru. Dysgwch am longddrylliadau, achubion dewr a môr-ladron. Darganfyddwch sut brofiad oedd hwylio ar Fôr Iwerddon dros 100 mlynedd yn ôl. Ymwelwch â’n Lloches Cyrch Awyr o’r Ail Ryfel Byd a rhyfeddwch at ein casgliad o bethau cofiadwy o’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.