Glanfa Llangollen yw un o’r atyniadau ymwelwyr hynaf yn nhref farchnad Llangollen yng Ngogledd Cymru, gydag ymwelwyr yn mwynhau teithiau ers dros 100 mlynedd.
O’r Lanfa gallwch naill ai gychwyn ar daith cwch wedi’i dynnu gan geffyl ar hyd y llwybr bwydo ar gyfer y brif gamlas, neu daith cwch modur traphont sy’n mynd â chi ar draws Traphont Ddŵr enwog Pontcysyllte a adeiladwyd gan Thomas Telford.