Traeth y Gogledd Aberystwyth
Ceredigion SY23 2AZ
Gwobrau Arfordir W/ales – Gwobr Glan Môr 2024
Mae Traeth y Gogledd a glan y môr Aberystwyth yn ganolbwynt i’r dref ac yn hoff atyniad i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd – a’r rhai sydd eisiau ymlacio ar lan y môr.
Gwybodaeth Hygyrchedd
– Promenâd gwastad
– Rampiau i lawr i’r traeth
– Toiledau Hygyrch gerllaw
– Caffis gerllaw
Wedi’i wneud o dywod llyfn, tywyll a graean bras, mae Traeth y Gogledd Aberystwyth yn un o’r mannau mwyaf poblogaidd yn y gyrchfan glan môr fywiog hon. Y tu ôl i’r traeth mae promenâd hir a gwastad sy’n berffaith ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.