Mae Clwb Canŵio Maesteg yn glwb cymunedol nid-er-elw sy’n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr!
Rydym yn croesawu aelodau newydd nad ydynt efallai erioed wedi padlo o’r blaen yn ogystal â rhwyfwyr profiadol sydd am ddatblygu a chynnal eu sgiliau.
Gyda dros 70 o aelodau mae’r clwb yn gymysgedd egnïol o ddechreuwyr a rhwyfwyr profiadol o bob rhan o dde Cymru. Mae Clwb Canŵio Maesteg yn gallu cynnig padlo i aelodau ag anableddau.
Clwb cymunedol nid-er-elw sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr! Gyda dros 70 o aelodau mae’r clwb yn gymysgedd egniol o ddechreuwyr a phadlwyr profiadol o bob rhan o’r sir.
Clwb cynhwysol ‘Aur Insport’ Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n golygu ein bod yn gallu cynnig padlo i aelodau ag anghenion ychwanegol. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Yn aelod o Canŵ Cymru sy’n gorff llywodraethu ein camp, mae’r clwb yn falch o gael ei gydnabod fel CLWB Y FLWYDDYN yn 2018.
Mae gan ein hyfforddwyr brofiad cyfunol o dros 100 mlynedd!
Mae gan Glwb Canŵio Maesteg nifer o hyfforddwyr profiadol sy’n gallu rhoi hyfforddiant arbenigol mewn padlo caiac a chanŵ ar draws nifer o ddisgyblaethau.
Mercher
7.00pm-8.00pm Sesiwn Iau
8.00pm-9.00pm Sesiwn Hŷn
Cysylltwch â Chlwb Canŵio Maeteg i gadw lle!