Mae MCDC yn cyfarfod yn y Ganolfan Ddawns bob dydd Mawrth yn ystod y tymor rhwng 7.30pm a 9pm. Rydym yn gwmni o ddawnswyr anabl a rhai nad ydynt yn anabl.
Mae aelodau cwmni MCDC yn grŵp o ddawnswyr ymroddedig sydd wedi ymrwymo i ymarferion wythnosol rheolaidd ac i perfformio fel cwmni
Rydym wedi perfformio yn y Ganolfan Ddawns a Theatr Borough y Fenni, Glan yr Afon yng Nghasnewydd, The Dance House & CultVR yng Nghaerdydd a The Met yn Abertyleri.
Ers 2019 mae MCDC wedi perfformio, bob blwyddyn, ochr yn ochr â’n cwmni dawns ieuenctid MYDC fel rhan o’r Ignite Project a ariennir gan Gyngor y Celfyddydau.
Mae Dance Blast yn sicrhau bod MCDC bob amser yn cael ei arwain gan goreograffydd uchel ei barch a phrofiadol.
Mae Sarah Rogers, o Ransack Dance Company, wedi bod yn goreograffydd MCDC ers mis Medi 2022.
MAE DOSBARTHIADAU YN RHEDEG AMSER TYMOR YN UNIG