Dydd Iau, Chwefror 29ain
9.30yb – 3.30yp
Cysylltu, Cydweithio,
Dathlu
Digwyddiad anffurfiol i archwilio, trafod a gwerthfawrogi
rôl hollbwysig y gofalwr di-dâl
Pwy sy’n cael gwahoddiad?
Pobl sy’n gofalu am rywun fel gofalwr di-dâl, neu’r rhai sy’n darparu unrhyw fath o gefnogaeth i ofalwyr di-dâl yng Ngwynedd.
Ble bydd yn cael ei gynnal?
Gwesty’r Celtic Royal, Caernarfon
Sut i gofrestru
Cofrestrwch gan ddefnyddio’r ddolen isod:
https://www.eventbrite.com/e/781902430217?aff=oddtdtcreator
Hoffem annog cymaint o ofalwyr di-dâl â phosibl i fynychu yn ogystal â staff cyflogedig, felly pe gallech rannu’r gwahoddiad a helpu i hwyluso trefniadau, byddem yn ddiolchgar iawn.
Telir costau teithio i ofalwyr di-dâl.
Beth i’w ddisgwyl
Ar ôl bore o ddysgu ac archwilio, darperir cinio ac yna prynhawn o weithgareddau ar gyfer lles.
Nid oes angen aros am y diwrnod cyfan.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â ni: cymorth@gwynedd.llyw.cymru