Loading Digwyddiadau

« All Digwyddiadau

  • This event has passed.

Dick Whittington a Pi-Rats y Caribî – Perfformiad BSL

Ionawr 19 @ 3:00 yh - 5:30 yh

Mae’r Wardeniaid yn ôl gyda’u pantomeim arobryn blynyddol! Yn dilyn ‘Sinderela’ a gafodd ganmoliaeth fawr y llynedd, mae’r Wardeniaid bendigedig yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth gyda ‘Dick Whittington and the Pi-Rats of the Caribbean’. Wedi’i gyfarwyddo gan Richard Cheshire gyda chyfarwyddyd cerddorol gan Elinor Powell a choreograffi gan Lorna Lowe a Carl Ryan, bydd cast o berfformwyr dawnus o bob oed yn mynd â chi ar antur forwrol yn y cynhyrchiad anhygoel hwn. Richard Cheshire ac Ioan Guile sy’n serennu, ynghyd â hoelion wyth y Wardeniaid Alex Neil, Julie McNicholls Vale, Donna Richards a Miriam Llwyd. Mae ‘Dick Whittington and the Pi-Rats of the Caribbean’ yn llawn jôcs ac arferion hwyliog. Bydd pobl o bob oed wrth eu bodd â’r sioe ysblennydd hon, felly archebwch eich tocynnau’n gyflym cyn iddynt fynd!

Cynhelir perfformiad Iaith Arwyddion Prydain o’r sioe ddydd Sul, 19eg Ionawr am 3pm.

Anghenion Mynediad : Cysylltwch â ni i archebu os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fydd angen seddau addas neu os oes angen lle penodol ar gyfer cadeiriau olwyn. Tudalen Mynediad : Mynediad – Celfyddydau Aber

Lleoliad

Canolfan Gelf
Canolfan Gelf
Aberystwyth,CeredigionSY23 3DEUnited Kingdom
+ Google Map
Phone
01970 62 32 32
View Lleoliad Website
Skip to content