Digwyddiad Lansio Arweinyddiaeth er Lles (L4W).
Ymunwch â ni ym Mhrifysgol Wrecsam ar ddydd Mercher 26 Mawrth , 1-4pm, ar gyfer digwyddiad lansio Arweinyddiaeth er Lles (L4W) cyffrous.
Pam mynychu’r digwyddiad?
Mae agenda sy’n arwain y byd yng Nghymru i ddiogelu a hyrwyddo llesiant pobl, lleoedd a’r blaned, gan gydnabod yr angen i symud tuag at systemau llesiant ac economi llesiant. Mae gwireddu’r weledigaeth hon yn hynod heriol, ac mae angen arweinwyr a gweithwyr proffesiynol arloesol, moesegol a thosturiol gyda gwybodaeth a sgiliau uwch.
Beth fydd y digwyddiad yn ei gwmpasu?
Bydd y digwyddiad lansio hwn yn cynnwys sgyrsiau a gweithgareddau ysgogol ar y thema L4W, ac yn darparu gwybodaeth am y gyfres newydd o raglenni ôl-raddedig lles, arweinyddiaeth ac iechyd y cyhoedd a gynigir ym Mhrifysgol Wrecsam.
Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad?
P’un a ydych chi’n arweinydd, yn ddarpar arweinydd, yn ymarferwr neu’n weithiwr proffesiynol, bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i gysylltu ag unigolion sy’n angerddol am ysgogi newid ystyrlon o fewn gwasanaethau cyhoeddus.
Beth yw cost y digwyddiad?
Mae’r digwyddiad am ddim a darperir lluniaeth ysgafn. Bydd yn digwydd ar brif gampws Plas Coch (LL11 2AW) ac mae lle i barcio ar y safle. Dylai mynychwyr ymweld â’r brif dderbynfa wrth gyrraedd.
Unrhyw gwestiynau pellach?
Anfonwch e-bost at Sharon Wheeler: Sharon.Wheeler@wrexham.ac.uk .