Mae grŵp diweddaraf Canolfan y Byddar (Cymru) wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda phobl o bob rhan o dde Cymru yn mynychu. Cefnogi teuluoedd a phlant Byddar gan gynnig cefnogaeth cyfoedion i gyfoedion, gweithgareddau a seminarau addysgol trwy gydol y flwyddyn. Eu gwefan yw http://www.cardiffdch.co.uk/ .
Cynhelir cyfarfodydd ar y dydd Sadwrn olaf o bob mis. Gwiriwch eu gwefan i gael cadarnhad o leoliad, gan fod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Byddar Caerdydd ac mewn lleoliadau eraill. Yr amseroedd fel arfer yw 12.30pm i 2.30pm (ond gallant newid).