Camwch i mewn i’r Nadolig trwy ymweld â’n Ffair Nadolig
Yn llawn stondinau, Groto Siôn Corn a danteithion Nadoligaidd, peidiwch â cholli’r digwyddiad gwyliau hudol hwn!
Mae’r gweithgareddau’n cychwyn am hanner dydd pan fydd cinio Nadolig traddodiadol yn cael ei weini yng Nghaffi Pen Dinas (un cwrs am £8.00 a dau gwrs am £12.00). Bydd gan Siop y Llyfrgell amrywiaeth o anrhegion o safon ar werth drwy gydol y dydd, a mwy nag 20 o stondinau gan artistiaid a chrefftwyr lleol gyda’r nos. Dewch i fwynhau adloniant byw yng nghwmni Côr y Gen , Iwcadwli , Bwca a Ffion Evans , a chael anadliad ohono i gyd dros luniaeth ysgafn Nadoligaidd Caffi Pen Dinas.