Mae Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn fudiad ieuenctid gwirfoddol sy’n gweithredu’n ddwyieithog ar draws cefn gwlad Cymru. Gyda dros 5,000 o aelodau rhwng 10 a 28 oed, mae ein rhwydwaith yn cynnwys 138 o glybiau CFfI a deuddeg Ffederasiwn Sirol.
Fel rhan o’n hymrwymiad i wneud pob gweithgaredd yn hygyrch a chynhwysol i bawb, rydym wedi hyfforddi Carys Storer Jones yn ddiweddar fel ein Hyrwyddwr Hygyrchedd . Mae Carys bellach yn rhannu ei gwybodaeth gyda’i chyd-staff a gwirfoddolwyr, gan ein helpu i wreiddio hygyrchedd ym mhopeth a wnawn.
Mewn partneriaeth â Piws , rydym hefyd yn falch o gefnogi oedolion ifanc anabl i ddod yn Llysgenhadon Mynediad . Mae hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir—fel y gall pawb deimlo’n hyderus a bod croeso iddynt yn ein digwyddiadau a’n clybiau.
Os oes gennych chi anghenion hygyrchedd a hoffech chi gymryd rhan, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cysylltwch â Carys ar: Carys@yfc-wales.org.uk
Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.