Ydych chi’n ofalwr sy’n chwilio am weithgareddau yng Ngheredigion y gallwch chi a’ch cleient gymryd rhan ynddynt gyda’ch gilydd er budd eich iechyd a’ch lles?
Mae gan Active-Ability ddosbarth newydd yn cychwyn ddydd Gwener yma, 1.00 yn Stiwdio 4 Mwldan.
Creu lle cynhwysol, diogel a chroesawgar i oedolion ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau corfforol.
Ymunwch â ni am ein sesiwn symud i gerddoriaeth gyntaf i helpu i gadw ein calonnau’n iach, cynyddu symudedd, cryfhau ein cyhyrau, gwella cydbwysedd a chydlyniad a datblygu creadigrwydd.
Gweler y manylion isod neu cysylltwch â mi drwy negesydd os hoffech gael rhagor o wybodaeth.