Am y ddwy flynedd ddiwethaf mae Piws wedi trefnu gwasanaeth Nadolig arbennig yng Nghadeirlan Bangor. Mae plant o Ysgol y Bont, Ysgol Pendalar, Ysgol y Gogarth a Grwpiau Cymunedol eraill yn ymuno i ddathlu’r Nadolig.
Mae’r gwasanaeth yn cynnwys perfformiadau gwych a chofiadwy gan y plant a charolau poblogaidd, mewn amgylchedd hamddenol, diogel a chroesawgar. Mae croeso i bawb gyda lluniaeth ysgafn a byrbrydau ysgafn ar gael yn eof y gwasanaeth (DS: dim anrhegion Nadolig).
Mynediad cadair olwyn: Argymell gollwng yn y man gollwng i’r anabl uwchben y Gadeirlan, sy’n arwain at lwybr hygyrch ar lethr i lawr at y brif fynedfa, mae lifft ar gael wrth ymyl y prif risiau. Am fanylion pellach cysylltwch â: nikki.carlo@piws.co.uk