Mae straeon cymdeithasol yn helpu plant ag anghenion ychwanegol i ddatblygu gwell dealltwriaeth gymdeithasol o sut mae’r byd o’u cwmpas yn gweithio, a’u helpu i gadw’n ddiogel.
Ymunwch â’r gweithdy hwn a dysgwch sut i greu teclyn gweledol syml i helpu’ch teulu i ymdopi â sefyllfaoedd newydd a’u deall.
Byddwn yn defnyddio’r ap ‘InShot’ i wneud stori gymdeithasol. Mae ‘InShot’ yn ap rhad ac am ddim sydd ar gael o’r Google Play Store.
Dewch draw ddydd Iau 13 Chwefror am 1.30 tan 2.30pm.
Cofrestrwch ar gyfer ein gweithdy straeon cymdeithasol
Rydym yn cynnal y gweithdy hwn ar-lein trwy Zoom. Bydd hyfforddwr profiadol ac aelod o staff o dîm Cronfa’r Teulu yno i gefnogi.
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm drwy anfon e-bost at digitalskills@familyfund.org.uk neu ffoniwch ni ar 01904 550066 .