Ymunwch â’r gweithdy ‘Cadw’n Ddiogel’ i ddysgu sut i reoli iPad eich plentyn, fel y gall ddysgu a chwarae’n ddiogel. Yn y gweithdy, byddwn yn ymdrin â:
creu codau pas
galluogi amser sgrin
gosod terfynau amser ar apiau
ychwanegu cyfyngiadau i wefannau neu gynnwys arall
lawrlwytho a defnyddio apiau cyfeillgar i blant fel YouTube Kids
Ymunwch â ni ar ddydd Mawrth 18 Chwefror am 6.00pm: Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy iPad Cadw’n Ddiogel Rydym yn cynnal y gweithdy hwn ar-lein trwy Zoom. Bydd hyfforddwr profiadol ac aelod o staff o dîm Cronfa’r Teulu yno i gefnogi.
Nodwch os gwelwch yn dda:
Mae hwn yn weithdy cyfeillgar, anffurfiol ar gyfer rhieni a gofalwyr plant a phobl ifanc anabl neu ddifrifol wael.
Bydd angen i chi gael iPad (neu iPhone) i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r gweithdy.
Er mwyn cadw’ch iPad yn rhydd i’w ddefnyddio yn ystod y gweithdy, bydd angen i chi ymuno â galwad Zoom ar ddyfais arall, fel ffôn clyfar neu liniadur.