Dewch draw i Gastell Biwmares y Calan Gaeaf hwn a dilyn y llwybr arswydus o amgylch y castell!
Chwiliwch am ffigurau erchyll yn llechu y tu mewn. A gallai dod o hyd i gegin y wrach fod yn werth chweil os gallwch chi gwblhau’r llwybr, hawlio’ch rhyddid a dianc gyda gwobr.
Ymwelwch â’r gwrachod preswyl, sy’n fwy cyfeillgar nag y maent yn edrych, yn yr ystafell grefftau iasol. Camwch i mewn a gwnewch grefftau brawychus i fynd adref gyda chi.
Nid oes angen i chi archebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn ( mynediad arferol yn berthnasol )