Rydym yn hapus i gyhoeddi ein bod yn bwriadu parhau i gynnig y sesiynau chwarae poblogaidd i blant ag anghenion ychwanegol, mewn partneriaeth â Derwen!
Gweithgareddau yn ystod y sesiynau:
Mae’r sesiynau’n cynnig ystod eang o weithgareddau felly mae rhywbeth a fydd yn gweddu i ddiddordebau ac anghenion pob plentyn! Mae rhai yn cynnwys chwarae meddal, gweithgareddau synhwyraidd, chwarae grŵp a neuadd llawn hwyl!
Bydd y neuadd yn llawn sesiynau hwyliog yn cynnwys castell neidio, ardal synhwyraidd ac amrywiaeth o wahanol deganau felly ni fydd prinder o bethau hwyliog i’w gwneud!
Pwy fydd yn gallu ymuno â’r sesiynau?
Mae’r sesiynau yn agored i bob plentyn neu berson ifanc ag anghenion ychwanegol yn ogystal â’u teuluoedd. Mae croeso i frodyr a chwiorydd, rhieni, gofalwyr a neiniau a theidiau i gyd! Mae’r sesiynau ar gyfer y teulu cyfan!
Mynediad am ddim i rai o gyfleusterau canolfannau Byw’n Iach Gwynedd :
Ail ddydd Sadwrn pob mis: