Mae Nadolig Fictoraidd bythol boblogaidd Siôn Corn yn dychwelyd ar gyfer tymor y Nadolig 2024. Cyfle i chi a’ch anwyliaid fwynhau taith arbennig gyda’r nos o amgylch fflatiau addurnedig Castell Caerdydd.
Daw’r daith fer hon i ben gyda chyfarfod arbennig yn y Parlwr cain, lle bydd plant yn cael cyfle i siarad â Siôn Corn, cael tynnu lluniau a gadael gyda dewis o anrheg. I gael diweddglo perffaith i noson hudolus, cynheswch â gwydraid o win cynnes (neu ddiod ysgafn) a danteithion tymhorol yn amgylchoedd syfrdanol Llyfrgell y Castell.