Mae UCAN Bach yn brosiect celfyddydau creadigol newydd sy’n rhoi cyfle i blant dall a nam ar eu golwg archwilio a ffynnu yn eu creadigrwydd. Bydd plant ifanc o 3 i 7 oed a’u teuluoedd yn dod at ei gilydd mewn amgylchedd hygyrch, cefnogol i ddatblygu sgiliau celfyddydau perfformio gan ddefnyddio caneuon, offerynnau cerdd, a gemau drama.
Po gynharaf y bydd plentyn â cholled golwg yn ymgysylltu â’r celfyddydau, y cynharaf y bydd yn dysgu sgiliau amhrisiadwy fel hunanfynegiant a chyfathrebu ac yn dod yn fwy hunanhyderus.
Bydd y sesiynau rhad ac am ddim hyn yn cael eu cynnal yn Ysgol Gymraeg Sant Baruc yn y Barri ac Ysgol Gymraeg Pen-y-Garth ym Mhenarth, gan ddechrau ddydd Iau 16 Ionawr am 3.30pm.
Archebwch eich lle drwy e-bostio gwennan@ucanproductions.org
Ariennir y prosiect peilot dwyieithog hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Bro Morgannwg.