Mae’r ddwy gadair olwyn draeth wedi’u hariannu trwy’r arian Adfer Gwyrdd gan lywodraeth cymru a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Ynys Môn a’r tîm AHNE. Prynodd Cyngor Sir Ynys Môn nhw gyda’r nod o wneud traethau Ynys Môn yn hygyrch i bawb. Mae’r ddwy gadair yn un maint oedolyn ac un maint plentyn. Mae’r cadeiriau ar daith yn Nhraeth Lligwy tan ddiwedd Medi. Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gobeithio os bydd y cadeiriau olwyn traeth hygyrch yn cael adborth da, y byddant ar gael yn barhaol ar draeth Traeth Lligwy ar gyfer yr haf nesaf.

Sut i archebu cadeiriau:

I archebu’r cadeiriau, dylai unigolion ofyn i aelodau staff y Caffi yn Lligwy a bydd y gwaith papur ganddynt. Sylwch fod bwcio ar sylfaen y cyntaf i’r felin.

 

 

Nikki
Author: Nikki

Skip to content