Mae canolfan mileniwm Cymru yn ganolfan gelfyddydau genedlaethol i Gymru.
Gyda digwyddiadau, sioeau o safon byd a phrofiadau ar gael.
Maent yn creu eu cynyrchiadau eu hunain, gan arddangos straeon a thalent Gymreig yn rhyngwladol ac yn ddigidol.
Mae canolfan mileniwm Cymru yn elusen sy’n cynnig profiadau dysgu sy’n newid bywydau i bobl ifanc, cymunedau ac artistiaid.
Mae canolfan mileniwm Cymru wedi ceisio gwneud eu lleoliad yn hygyrch i bob ymwelydd.
Maen nhw’n cynnig perfformiadau wedi’u harwyddo, disgrifiadau sain a chapsiynau. Yn ogystal â theithiau cyffwrdd!
Mae ar gael hefyd dros glustffonau gwella sain clust neu glustffonau sengl clust fewnol.
Mae 17 o leoedd parcio bathodyn glas y gellir eu harchebu ymlaen llaw, sydd dan do.
Tra yn yr awditoriwm mae 22 o leoedd cadeiriau olwyn ar gael. Wrth archebu lle cadair olwyn, dylid dweud wrth staff ymlaen llaw a fydd cydymaith gyda chi neu unrhyw addasiadau neu wybodaeth bellach y gallai fod eu hangen arnynt.
Yn ardal y Glonfa mae ganddyn nhw ystafell dawel rhag ofn bod angen rhywfaint o le ar unrhyw un. (Os oes angen, gofynnwch i aelod o staff ei ddatgloi).