Mae Distyllfa Wisgi Aber Falls yn un o ddim ond pedair yng Nghymru, a’r gyntaf yng Ngogledd Cymru ers dechrau’r 1900au.
Wedi’i leoli o fewn tafliad carreg i’r Rhaeadr Fawr, rhaeadr enwog Rhaeadr Aber, mae ein wisgi’n cael ei wneud yn ein distyllfa, gan ddefnyddio cynhwysion Cymreig wedi’u crefftio’n arbennig o’r ardal gyfagos.