Mae Hwylland Pwllheli yn atyniad twristaidd poblogaidd sydd wedi’i leoli yng nghanol Pwllheli, yn union gerllaw’r Maes.
Mae’r busnes teuluol wedi’i sefydlu yma ers dros 60 mlynedd.
Mae digon i ddifyrru’r teulu cyfan, gydag amrywiaeth o reidiau, gweithgareddau ac arcêd difyrrwch.
Mae yna gaffi ar y safle hefyd – Caffi Sol, sy’n gweini prydau a lluniaeth drwy’r dydd.