Wedi’i ddisgrifio fel un o gyfrinachau gorau Gogledd Cymru mae byd cudd Gerddi Plas Cadnant, sydd wedi’i leoli ar ochr y Fenai, wedi’i guddio o’r golwg ger Porthaethwy ar Ynys Môn.
Roedd cyn berchnogion Plas Cadnant yn perthyn i deulu Tremayne o Heligan House, sydd bellach yn enwog am ei Erddi Coll.
Mae gardd newydd yn cael ei chreu ar safle hanesyddol, gan ddod yn baradwys i blanhigyn.
Bellach yn cael ei hystyried ymhlith ugain gardd mwyaf bywiog Cymru, ac yn cael sylw mewn llyfr newydd ‘The Finest Gardens of Wales’ gan Tony Russell’.