Siop hufen iâ fechan ym Mhwllheli yw Glasu, sy’n cynnig hufen iâ cartref, cacennau, te a choffi.
Gwneir hufen iâ Glasu i ryseitiau traddodiadol, gan ddefnyddio eu llaeth eu hunain o Ben Llŷn.
Saif eu fferm rhwng mynyddoedd Eryri a’r môr.
Mae eu tir pori wedi cael ei drin dros sawl cenhedlaeth i safonau sydd wedi ennill gwobrau, ac mae eu buchod yn pori ar y darn hyfryd hwn o dir.