Mae Starida Sea Services yn fusnes teuluol lleol sydd wedi ei leoli yn nhref hanesyddol Biwmares ar Ynys Môn.
Mae ein holl sgipwyr a chriwiau yn forwyr profiadol iawn, wedi cymhwyso yn unol â safonau Gwylwyr y Glannau ac mae ein holl gychod yn cael eu harchwilio’n rheolaidd i sicrhau eu diogelwch a’ch cysur.