Mae Parc y Fferm wedi’i leoli ar ran o’n fferm, Clyn-yr-Ynys. Mae ein teulu ni wedi ffermio o fewn ardal Aberteifi ers y 1600au, ac yng Nghlyn-yr-Ynys ei hun ers 1884, cyfnod yn ymestyn dros 5 cenhedlaeth ac yn cyfri. Agorwyd Parc y Fferm ym 1993 ac rydym yn fusnes teuluol i raddau helaeth.
Dewch i ddweud helo wrth ein hanifeiliaid fferm; mwynhewch ein taith gerdded wedi’i ffensio ar ben y clogwyni i’r pentir lle gallwch wylio morloi yn y gwyllt sy’n bridio yn yr ogofâu islaw clogwyni Parc y Fferm neu weld ein hymwelwyr dolffiniaid cyson.
Porwch yn ein siop anrhegion, gyda detholiad o deganau a llyfrau yn ogystal â chrefftau lleol a Chymreig; bydd plant yn mwynhau ein mannau chwarae dan do ac awyr agored; cael tamaid i’w fwyta yn ein caffi a mwynhau’r golygfeydd; neu aros ychydig yn hirach yn ein maes gwersylla.
: Closed Llun 9:00 yb - 5:00 yh Maw 9:00 yb - 5:00 yh Mer 9:00 yb - 5:00 yh Iau 9:00 yb - 5:00 yh Gwe 9:00 yb - 5:00 yh Sad Closed Sul Closed |
Loading... No Records Found Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again. Maps failed to load Sorry, unable to load the Maps API. |
Gwbert, Cardigan, Cardiganshire, SA43 1PR |