Mae Amgueddfa Caerdydd yn archwilio stori a threftadaeth y ddinas, gan adrodd hanes Caerdydd trwy lygaid y rhai a greodd y ddinas – ei phobl.
Mae Amgueddfa Caerdydd yn fan cychwyn gwych ar gyfer unrhyw ymweliad â Chaerdydd, ac mae’n rhoi cyflwyniad i hanes y ddinas drwy arddangosfeydd difyr, rhyngweithiol. Mae’n defnyddio straeon y bobl sydd wedi byw a gweithio yn y ddinas dros y canrifoedd diwethaf i ddod â hanes yn fyw.