Mae’r cadeiriau olwyn hygyrch wedi’u hariannu drwy arian Adferiad Gwyrdd gan Lywodraeth Cymru a ddyfarnwyd i dîm Cefn Gwlad ac AHNE Cyngor Sir Ynys Môn.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu prynu gyda’r nod o wneud Traethau Môn yn hygyrch i bawb.
Mae’r cadeiriau ar hyn o bryd yn Nhraeth Lligwy ar sail Arbrawf tan ddiwedd Medi ac yna (gobeithio) yn barhaol yn Lligwy ar gyfer yr haf nesaf.
I archebu’r cadeiriau, dylai unigolion ofyn i aelodau staff y Caffi yn Lligwy a bydd y gwaith papur ganddynt.
Mae dwy gadair ar hyn o bryd (un i oedolion ac un i blant) ac maen nhw ar seiliau’r cyntaf i’r felin.