Lawr lwytho pdf o’r astudiaeth achos hon

Sector Busnes:            Atyniad Ymwelwyr

Lleoliad:                          Brynsiencyn, Llanfairpwll LL61 6TQ

Gwefan:                            www.angleseyseazoo.co.uk

Rhan o Brosiect Peilot Cychwynnol Môn – Ebrill 2021

Ynghylch Sŵ Môr Môn

Acwariwm yw Sŵ Môr Môn sydd wedi ennill gwobrau lawer am ddangos rhai o fywyd gwyllt morol gorau Prydain. Mae’n atyniad cyfeillgar i deuluoedd sydd â mwy na 40 o danciau’n dangos creaduriaid o arfordiroedd y DU gan gynnwys octopws, cimychiaid, ceffylau môr, llysywod pendwll, sglefrod môr a siarcod.  Yn ogystal â chael diwrnod allan llawn hwyl, byddwch hefyd yn dysgu am gynefinoedd morol Prydain, ysbwriel morol a’r ymchwil a gwaith cadwraeth mae’r sŵ yn ei wneud i helpu eu hachub.  Mae’r Sŵ Môr yn cynnal digwyddiadau’n rheolaidd ac mae yno hefyd gaffi rhagorol , siop anrhegion a man chwarae yn yr awyr agored.

 

“Rydym yn cymryd balchder mewn bod yn hynod o anabledd ymwybodol ac rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr fod y sŵ a’n digwyddiadau’n gwbl hygyrch.  Rydym yn aelodau o’r cynllun cyflogwr Anabledd Hyderus ac yn hyrwyddwr o fewn ein cymuned fusnes leol ar ôl cael ein gwobr Lefel 3 – Arweinydd Anabledd Hyderus.”

Frankie Hobro, Cyfarwyddwr, Sŵ Môr Môn

Yr Her

Mae cael gwyliau a chwilio o gwmpas cyrchfan newydd neu fynd yn ôl i rywle lle rydych wedi bod o’r blaen yn rhywbeth mae pob un ohonom yn ei fwynhau.  Ond, i lawer o bobl gyda phroblemau hygyrchedd mae’n gallu bod yn brofiad hynod anodd.  Nid yw gwyliau heb stres, bob amser, yn dod heb orfod oresgyn heriau. Dyna pam mae ymchwil yn bwysig iawn ac nid yn unig wrth chwilio am lety ond hefyd wrth ddewis atyniadau ymwelwyr.

Cefnogi’r Ateb

Mae Sŵ Môr Môn yn ymfalchïo fod ei hadnoddau a’i digwyddiadau’n hygyrch i bawb, waeth beth yw eu hoed neu eu cyfyngiadau corfforol.  Er mwyn sicrhau profiad bythgofiadwy, maen nhw’n argymell cysylltu â’r sŵ cyn yr ymweliad er mwyn gallu trafod a goresgyn unrhyw broblemau hygyrchedd.

Mae tocynnau safonol a theuluol yn ddilys am 7 diwrnod, sy’n golygu fod ymwelwyr yn gallu dod yn ôl i’r Sŵ gymaint o weithiau ag yr hoffen nhw mewn wythnos, a hynny am ddim.  Fel y dywedodd un teulu sy’n ymweld yn rheolaidd “Mae hynny’n arbennig o dda i ni gan fod gan un o’n plant ADHD, felly mae ei allu i ganolbwyntio’n gallu amrywio ond rydyn ni’n gallu mynd a dod yn ôl y gofyn.  Ar rai ymweliadau, dim ond am tua 5 munud ydyn ni’n gallu bod yno, ond, ar adegau eraill, gallwn dreulio bron iawn ddiwrnod cyfan. Gan ei fod yn gyfarwydd â’r arddangosfeydd, mae’n  gwybod beth i’w ddisgwyl ac mae hynny gymaint yn well iddo.   Mae’n arbennig o hoff o’r don lethol sy’n gollwng tunnell o ddŵr pob 30 eiliad a cheisio gweld y pysgod sy’n cuddio yn ogystal â’r holl elfennau rhyngweithiol.  Mae yma gymaint i’w weld, mae’n  ymweliad cyntaf yn bendant wedi mynd y tu hwnt i’n disgwyliadau.”

Mae Sŵ Môr Môn yn cynnal digwyddiadau’n rheolaidd, sydd ar agor i bawb gan gynnwys unrhyw un gyda phroblemau hygyrchedd.  Fel aelod gweithgar o’r Gymdeithas Gadwraeth Forol, bydd ymwelwyr yn gallu cymryd rhan mewn un o’r digwyddiadau glanhau’r traethau, sy’n cael eu trefnu bob mis, neu ddathlu Diwrnod Cefnfor y Byd, cymryd rhan mewn Saffari Traethlin neu ymuno mewn sesiwn crefft. Mae yna hefyd sesiynau pan nad yw gerddoriaeth yn cael ei chwarae a’r goleuadau’n cael eu pylu ar gyfer pobl gydag anghenion arbennig.  Mae manylion am y digwyddiadau hyn ar y wefan ac ar Facebook.

Mae’n bosibl hefyd llogi cadair olwyn am ddim, a’u harchebu ymlaen llaw.  Mae yno hefyd leoedd pario ceir ar gyfer yr anabl.

Y Manteision

Mae pawb yn mwynhau’r gwyliau a’r gorffwys sydd ei angen i wella iechyd corfforol a meddylio.  Gyda Sŵ Môr Môn yn gwneud yn siŵr fod ei hatyniadau a’i digwyddiadau’n hygyrch i bawb, mae croeso yno i bob ymwelydd â’r ynys i fwynhau arhosiad bythgofiadwy.

Sut mae PIWS yn cefnogi Sŵ Môr Môn

Mae Sŵ Môr Môn yn gweithio gyda PIWS i fabwysiadu’r defnydd o symbolau hygyrchedd rhyngwladol yn ogystal ag i hyrwyddo’r atyniad i bobl gyda phroblemau hygyrchedd.

Pa adnoddau cafodd eu cyflwyno?

Gofalwyr am ddim

Mae gofalwyr sy’n hebrwng unrhyw un sydd wedi’i gofrestru’n anabl yn cael mynediad am ddim. Rhaid i’r gofalwr ddangos prawf, er enghraifft cerdyn adnabyddiaeth gofalwr neu waith papur y Gwasanaeth Iechyd.

Cynllun Blodyn Haul

Mae’r blodyn haul yn arwydd cydnabyddedig fod gan y gwisgwr anabledd cudd.  Mae’n gynnil ond yn hawdd i eraill ei adnabod, cydnabod a deall fod y gwisgwr yn wynebu heriau, ai yr angen am gefnogaeth ychwanegol, cymorth neu ychydig yn fwy o amser.  Trwy PIWS, mae Sŵ Môr Môn wedi cofrestru i ymuno â’r Cynllun Blodyn Haul Anableddau Cudd.  Drwy ei haelodaeth, mae’r Sŵ wedi ei ychwanegu ar fap lleoliad y cynllun ar ei wefan ac mae hefyd wedi ymrwymo i hyfforddi ei staff i adnabod y Blodyn Haul Anableddau Cudd sy’n sicrhau eu bod yn deall anableddau cudd yn well ac yn dysgu sut i fynd at a chefnogi cwsmeriaid sy’n gwisgo Blodyn Haul Cudd.

Datganiad Mynediad Presennol

 

 

GAPA
Author: GAPA

Skip to content