Hoffai’r tîm yn Nwyrain y Fro eich gwahodd i’w siop les un stop i gael asesiad iechyd a lles am ddim.
Mae eich iechyd a lles yn cynnwys mwy na dim ond eich pwysedd gwaed a cholesterol, er bod y rhain yn bwysig. Rydym yn deall nad yw bob amser yn hawdd gweld eich meddyg teulu, optegydd neu nyrs gymunedol. Am y rheswm hwn, rydym wedi cynllunio digwyddiad gyda’r nod o roi mynediad i chi at wasanaethau a gweithgareddau a all eich cadw’n iach ac sy’n bwrpasol i chi.
Yn y digwyddiad cewch gyfle i sgwrsio ag arbenigwyr lleol am gadw’n iach, cael mynediad uniongyrchol at wasanaethau y byddech fel arfer angen atgyfeiriad gan feddyg teulu ar eu cyfer, yn ogystal â chael eich pwysedd gwaed, lefelau colesterol a siwgr yn y gwaed wedi’u gwirio. Hyn i gyd a llawer mwy o dan yr un to ac ar garreg eich drws. Ein nod yw atal iechyd gwael cyn iddo ddigwydd a’ch helpu i ddod yn ôl i’ch gorau. Gyda’n gilydd gallwn ei gyflawni. Rydyn ni’n poeni, dwi’n gwybod eich bod chi hefyd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, cofrestrwch eich diddordeb trwy sganio’r cod QR ar y poster, gellir dod o hyd i’r poster ar dudalen Facebook Canolfan Hamdden Penarth.