Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Hygyrchedd – Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Ymwelwyr â symudedd cyfyngedig a defnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio
- Mae mannau parcio 50 llath o flaen yr amgueddfa i lawr y stryd gyfagos, nid oes yr un o’r rhain wedi eu dynodi ar gyfer dalwyr bathodyn oren.
- Mae mynediad i’r amgueddfa ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn i’r dde o’r grisiau blaen. Mae mynedfa wastad i’r amgueddfa, trwy ddrysau gwydr.
- Mae mynediad cadair olwyn i’r Oriel a lefel isaf yr Oriel ar hyd ramp.
- Mae cadair olwyn ar gael ar gais. Er na ellir archebu’r gadair hon ymlaen llaw ac y caiff ei darparu ar sail y cyntaf i’r felin, byddwn yn hysbysu’r Ddesg Flaen os gwneir cais ymlaen llaw.
- Mae seddi ar gael ym mhob rhan o’r Oriel.
- Mae mynediad i gadeiriau olwyn yn gyfyngedig yng Nghanolfan Capricorn. Mae ramp symudol ar waith, gofynnwch i aelod o staff wrth y Ddesg Flaen a byddan nhw’n gosod y ramp. Fel arall, gellir cael mynediad i Ystafell y Barics trwy ddefnyddio 4 gris, neu drwy ddefnyddio drws ochr y tu allan i flaen yr amgueddfa. Bydd staff yn sicrhau bod y fynedfa hon ar gael ar gais.
- Mae’r fynedfa i’r adeilad Cyswllt ar lawr gwastad.
Ymwelwyr dall a rhannol ddall
- Mae arweinlyfrau print bras ar gael am ddim i’w benthyca. Gofynnwch wrth y fynedfa.
Ymwelwyr Byddar a Thrwm eu Clyw
- Mae gan yr Oriel ddeunydd ysgrifenedig o safon dda i gefnogi’r casgliadau.
Anghenion dysgu ychwanegol
Os yw’n well gennych ymweld pan fyddwn ni’n llai gorlawn, fel arfer mae llai o bobl yn yr amgueddfa o 3pm bob dydd.
Cŵn
-
- Dim ond cŵn cymorth a ganiateir ar y safle.
- Lle bo modd, dylai perchnogion cŵn ddod â’u llyfr adnabod perthnasol a dylai anifeiliaid wisgo’r tabardau neu’r harnais priodol, ond nid yw hyn yn ofynnol ar gyfer mynediad.
- Mae dŵr yfed ar gael ar gais o’r ddesg flaen.
- Rhaid i gŵn adael y safle i ryddhau eu hunain ond bydd staff yn cynorthwyo ar gais
- Os nad ci yw eich gwasanaeth, cynorthwyydd neu anifail cymorth emosiynol, ffoniwch 03001112333 neu e-bostiwch [email protected] cyn eich ymweliad i osgoi cael eich siomi ar y diwrnod.
Reviews
Loading...
No Records Found
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Maps failed to load
Sorry, unable to load the Maps API.
Isca Augusta, Stryd Fawr, Ultra Pontem, Caerllion, Newport, Gwent, NP18 1AD






