Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian
Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian yn adnabyddus am ei thraddodiad hirsefydlog o fwydo barcutiaid coch yn ddyddiol.
Mae yna amrywiaeth eang o lwybrau ag arwyddbyst ar gyfer cerddwyr, beicwyr mynydd a rhedwyr.
Mae yna hefyd barc sgiliau gyda thrac pwrpasol i feicwyr mynydd ymarfer eu techneg a llwybr ag arwyddbyst ar gyfer marchogion.
Saif y ganolfan ymwelwyr ar ben bryn dramatig, sy’n pontio’r ffin rhwng yr iseldiroedd a’r ucheldiroedd, ac mae ganddi olygfeydd godidog o Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria.
Mae olion y diwydiant mwyngloddio plwm i’w gweld o hyd ar hyd y llwybrau ond heddiw mae llus a grug yn gorchuddio’r bryniau tra bod barcutiaid coch mawreddog yn cylchu uwchben.
Gwybodaeth hygyrchedd
Mae Llwybr y Barcud, sy’n mynd o amgylch ymyl y llyn, yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Nid oes unrhyw risiau na chamfeydd ac mae’r graddiant yn 10% neu lai gyda mannau gorffwys ar rannau i fyny’r allt.
Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys:
Parcio i ddeiliaid Bathodynnau Glas
Mynediad cadair olwyn i’r ganolfan ymwelwyr a’r caffi
Toiledau hygyrch
Cyfleusterau ar gyfer y rhai â nam ar eu clyw mewn caffi
Cadair olwyn trwy garedigrwydd
Cysylltwch â ni os oes angen gwybodaeth neu gefnogaeth ychwanegol arnoch ac i wella ein gwybodaeth, ein cyfleusterau a’n gwasanaeth cwsmeriaid, rhowch wybod i ni am eich profiad.
Reviews
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.







