Castell Caernarfon
Mae Castell Caernarfon yn cael ei gydnabod ledled y byd fel un o adeiladau mwyaf yr Oesoedd Canol.
Mae’r palas gaer hwn ar lan Afon Seiont wedi’i grwpio gyda chestyll eraill Edward I yng Nghonwy, Biwmares a Harlech fel Safle Treftadaeth y Byd. Ond o ran maint a drama bensaernïol mae Caernarfon yn sefyll ar ei phen ei hun.
Yma cododd Edward a’i bensaer milwrol Meistr James o San Siôr gastell, muriau tref a chei i gyd ar yr un pryd. Cymerodd y prosiect adeiladu anferth hwn 47 mlynedd yn y pen draw a chostiodd y swm syfrdanol o £25,000.
Ganed y castell allan o ryfel chwerw yn erbyn tywysogion Cymreig. Felly wrth gwrs cynlluniwyd ei llenfuriau anferth a Phorth y Brenin brawychus i wrthsefyll ymosodiad. Ond roedd y tyrau aml-liw, y cerfluniau eryr a’r gwaith maen amryliw yn anfon neges fwy cynnil.
Adolygiadau
Loading... No Records Found Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again. Maps failed to load Sorry, unable to load the Maps API. |
Castell Caernarfon, Castle Ditch, Caernarfon, Gwynedd, |