Pili Palas
Gweler y map isod am fanylion y cynllun.
Mae digonedd o leoedd parcio yn Pili Palas gyda thri lle parcio i’r anabl wedi’u marcio’n glir ar gael. Mae’r maes parcio gyferbyn â’r brif fynedfa.
Mae ramp yn arwain at y brif fynedfa sy’n ei gwneud hi’n hawdd cyrraedd cadeiriau olwyn a phramiau.
Mae man aros dan do ar gael pe bai ciw wrth y fynedfa.
Mae toiledau i’r anabl ar gael y tu allan i’r ffin talu. Mae rhagor o doiledau a newid cewynnau yn yr adeilad.
Mae’r siop, y caffi a’r atyniad yn gyfeillgar i gadeiriau olwyn a phramiau. Nid yw’r Llwybr Natur yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn na phramiau.
Dangosir prisiau mynediad wrth y brif fynedfa.
Rhoddir cwis i bob ymwelydd, yn rhad ac am ddim, wrth y fynedfa er mwyn hwyluso mordwyo o amgylch yr atyniad. Mae’r cwis ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae’r caffi yn darparu ar gyfer llysieuwyr.
Mae un gadair olwyn ar gael i’w benthyca am ddim wrth y fynedfa.
Ni chaniateir unrhyw Gŵn yn y parc ac eithrio Cŵn Tywys i’r Deillion y mae’n rhaid eu cadw dan reolaeth gaeth, ni chaniateir unrhyw Gŵn Cynorthwyol eraill er diogelwch ein hanifeiliaid.
Ar rai dyddiau mae ymwelwyr yn gallu cyfarfod a chyffwrdd â rhai o’r casgliad.
Bydd gofalwyr proffesiynol sydd â cherdyn gofalwr am ddim.

Reviews
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.

