Wedi’i wasgu rhwng pentiroedd creigiog, mae Tresaith yn draeth tywodlyd bach y gellir ei gyrraedd trwy lithrfa goncrit. Mae’n fan poblogaidd gyda dilynwyr chwaraeon dŵr a thorheulo, gyda rhaeadr anarferol sy’n disgyn dros y clogwyni yn ei ben gogledd-ddwyreiniol. Mae toiledau cyhoeddus ychydig oddi ar y traeth.