Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Hygyrchedd – Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Ymwelwyr â symudedd cyfyngedig a defnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio
- Mae mannau parcio 50 llath o flaen yr amgueddfa i lawr y stryd gyfagos, nid oes yr un o’r rhain wedi eu dynodi ar gyfer dalwyr bathodyn oren.
- Mae mynediad i’r amgueddfa ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn i’r dde o’r grisiau blaen. Mae mynedfa wastad i’r amgueddfa, trwy ddrysau gwydr.
- Mae mynediad cadair olwyn i’r Oriel a lefel isaf yr Oriel ar hyd ramp.
- Mae cadair olwyn ar gael ar gais. Er na ellir archebu’r gadair hon ymlaen llaw ac y caiff ei darparu ar sail y cyntaf i’r felin, byddwn yn hysbysu’r Ddesg Flaen os gwneir cais ymlaen llaw.
- Mae seddi ar gael ym mhob rhan o’r Oriel.
- Mae mynediad i gadeiriau olwyn yn gyfyngedig yng Nghanolfan Capricorn. Mae ramp symudol ar waith, gofynnwch i aelod o staff wrth y Ddesg Flaen a byddan nhw’n gosod y ramp. Fel arall, gellir cael mynediad i Ystafell y Barics trwy ddefnyddio 4 gris, neu drwy ddefnyddio drws ochr y tu allan i flaen yr amgueddfa. Bydd staff yn sicrhau bod y fynedfa hon ar gael ar gais.
- Mae’r fynedfa i’r adeilad Cyswllt ar lawr gwastad.
Ymwelwyr dall a rhannol ddall
- Mae arweinlyfrau print bras ar gael am ddim i’w benthyca. Gofynnwch wrth y fynedfa.
Ymwelwyr Byddar a Thrwm eu Clyw
- Mae gan yr Oriel ddeunydd ysgrifenedig o safon dda i gefnogi’r casgliadau.
Anghenion dysgu ychwanegol
Os yw’n well gennych ymweld pan fyddwn ni’n llai gorlawn, fel arfer mae llai o bobl yn yr amgueddfa o 3pm bob dydd.
Cŵn
- Dim ond cŵn cymorth a ganiateir ar y safle.
- Lle bo modd, dylai perchnogion cŵn ddod â’u llyfr adnabod perthnasol a dylai anifeiliaid wisgo’r tabardau neu’r harnais priodol, ond nid yw hyn yn ofynnol ar gyfer mynediad.
- Mae dŵr yfed ar gael ar gais o’r ddesg flaen.
- Rhaid i gŵn adael y safle i ryddhau eu hunain ond bydd staff yn cynorthwyo ar gais
- Os nad ci yw eich gwasanaeth, cynorthwyydd neu anifail cymorth emosiynol, ffoniwch 03001112333 neu e-bostiwch roman@amgueddfacymru.ac.uk cyn eich ymweliad i osgoi cael eich siomi ar y diwrnod.
Reviews
Loading... No Records Found Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again. Maps failed to load Sorry, unable to load the Maps API. |
Isca Augusta, Stryd Fawr, Ultra Pontem, Caerllion, Newport, Gwent, NP18 1AD |